Search Podcast
Editors' Lists
Featured Podcasts
Anlamın Peşinde
Amerika Günleri
Barış Özcan ile 111 Hz
Besitos para las plantas
Disciplinas Alternativas
Eternity Metal Podcast
Extraordinary English Podcast
Sesli Kitap (Nisan Kumru)
Real Talk JavaScript
CodeNewbie
React Podcast
All Podcasts
Recently Updated
Graffiti Cymraeg
2012/05/22
Info (Show/Hide)
Chwe mlynedd hir yn ddiweddarach!
Dw i'n meddwl am ail-ddechrau'r blog - does dim amser (na chyfleusterau) da fi I bodledu dyddiau hyn, ond mae gen i ryw 'itch' I wneud rhywbeth - unrhywbeth Cymraeg. Fi 'di byw yn Lloeger ers saith mlynedd nawr, tair ohonont yn Llundain, ac ond am aduniadau achlysurol gyda ffrindiau ysgol a wejen sy'n dysgu yn y ganolfan Gymraeg, does gen i ddim allfa am yr hyn oeddwn i arfer cael yn Nhy Tawe, y 'Steddfod, a Maes-E.
Does dim syniad da fi beth allen i sgwenni am i fod yn gwbl onest - o'n i arfer siarad am gerddoriaeth yn y podlediad, ond dw i'n hollol owt of tytch gyda'r 'sin Cymraeg' ddyddie hyn. Gewn ni weld. Rhaid i mi weud, dw i yn cael rhyw foddhad pengam o weld y linell goch spellchecker yn dangos lan o dan bron i bob gair dw i'n sgwennu. Eniwei - mae'n stats i'n gweud bod y blog di cael ei ymweld a dri deg o weithiau yn y chwe mis diwethaf. Os mai pobl go iawn oedd unrhyw o rhain - cysylltwch a fi drwy'r blog - efallai gai rhai syniadau am sut i gario mlaen gyda'r peth 'ma ddechreues i nol yn haf twym, hir a thrwm dwy fil a phump, a sy di goroesi rhywffordd dros y blynyddoedd wrth i'm mywyd i gario mlaen heb rhoi llawer o feddwl iddo.
Oriau bychan a syniadau dwl - mae'r ddau yn mynd law yn llaw!
Ymddiheuriadau Mawr! Pennod 5
2006/04/27
Nes i recordio hwn ooooeeeesssoedd nol, a fi di bod mor brysur o'n i di anghofio rhoi fe ar y we. Anwybyddwch yr holl gyferiadau i frwydr y bandiau C2, ni i gyd yn gwybod sut wnaeth hwnna droi mas nawr!
Gwrandewch YMA!
O'r diwedd! Graffiti Cymraeg Pennod 4
2006/01/28
Gwrandewch yma
Mae misoedd ar fisoedd di bod ers yr un diwetha. Sori!
Caneuon:
1 The Law of Fives - Dance Tonight Gwefan
2 Radioflyers - Popeth i'r Chwith Gwefan
3 Bill deRome - the Sundial Gwefan
4 Radioflyers - 1984
Mwynhewch!
Graffiti Cymraeg Episode 3
2005/09/15
Info (Show/Hide)
Cliciwch Yma i wrando.
0:00 Rhagarweiniad - "Brian The Bear" gan The California Girls
3:42 Sioe anrhefnus - esgusodion Rhys!
5:25 "Burn" gan Curious
www.podcastnyc.net
8:33 Stori fach
10:55 "Everything You Do" gan The Suffrajets
www.thesuffrajets.com
14:17 Dim Andrew Lewis!
15:04 'Sneb Yn Gwybod Beth Mae Rhys Mynd I Chwarae, Hyd Yn Oed Rhys!
16:27 "I Need You" gan Adam McIntyre
www.adammcintyre.headphonetreats.com
21:22 Sub Pop Podcast
http://www.subpop.com/syndicate/
21:44 "Arizona" gan The Constantines
www.constantines.ca
26:35 Galwad Ffon annisgwyl
27:18 "Don't Count On Me" gan The Suffrajets
31:06 "Maybe" gan The One You Love
34:13 "Summertime" gan Brother Love
www.brotherloverocks.com
Wythnos Nesa; The Suffrajets, Andrew Lewis
2005/09/12
Info (Show/Hide)
Peth newyddion cyffrous am sioe wythnos nesa. . .
Yn ogystal a'r cymysgedd eang o gerddoriaeth podsaff sydd 'di neud lan rhan fwyaf o'r ddwy sioe gyntaf, fe fydd gen i gwpl o eitemau mwy unigryw i chi erbyn wythnos nesaf. Mae The Suffrajets (www.thesuffrajets.com ) ar ganol eu taith dros Brydain ar hyn o bryd, a cwrddais i nhw mewn clwb yn Abertawe ar nos wener. Canlyniad y cyfarfod yma oedd eu bod nhw wedi rhoi promo o'u sengl newydd "Everything You Do" i fi, a chaniatad i'w chwarae ar y podcast. Sticiwch hwnna yn eich piben, iTunes!
Hefyd, fe gawn ni gyfweliad a cherddoriaeth gyda Andrew Lewis, cyn-ganwr Splendigedig ac Adzuki (ie, glywoch chi'n iawn), a fydd yn siarad am ei hanes, ysbrodoliaeth a'i fand newydd.
Newyddion tryst hefyd, mae gen i ofn. Dydd sul nesaf byddai'n symud mas o adref, a dechrau ym mhrifysgol. Fe wnai gario mlaen gyda'r podcast, ond bydd rhaid gweud hwyl fawr i sain clir a manwl, a dechrau recordio ar feic y cyfrifiadur. Felly, joiwch y sain tra bod e'n para.
Laters
Graffiti Cymraeg Episode 2
2005/09/09
Info (Show/Hide)
Gwrandewch yma
Shownotes:
0:00 Rhagarweiniad
0:45 Radio Amgen
www.radioamgen.net
3:12 "Sound Scientist" gan Bill
8:10 Top 5 DVDs cerddoriaeth;
5 MSP - FD GH
4 Dave Gilmour in Concert - Royal Festival Hall
3 Muse - Hullaballoo
2 The Clash - Westway to the world (cyfweliadau a live)
1 Queen - Live at Wembley Stadium
8:35 "Sentenced to Death (By Rock n Roll)" gan The Revolutions
13:00 PSA
www.redcross.org
14:47 Hwyl a sbri - Fi, Steff a Merched Mecca
17:19 "Dreaming of an M16" gan The Shapes
21:17 Diolch i bawb sydd 'di helpu fi gyda'r podcast - clips o Musicians' Cooler ac Andycast
www.coolerpodcasts.com
www.andycast.net
25:23 Y Rhwydwaith Gerddoriaeth Bodsaff
www.podsafemusicnetwork.com
26:06 "Sluttishly Walking Whore" gan Crash Menagerie
www.crashmenagerie.com
30:23 Hwyl Fawr!
30:51 "Postcards From Hell" gan American Heartbreak
www.churchofrockandroll.net
Diolch yn fawr i Jammin' Dave
2005/09/06
Jyst mo'yn dweud diolch yn fawr i Dave Jackson o'r Musicians' Cooler Podcast am chwarae promo a clip o Graffiti Cymraeg ar ei bodcast, ac am chwarae un o nghaneuon i. Tanysgrifiwch i'r Musicians' Cooler Podcast Yma .
Mae episode 1 yn fyw!
2005/09/05
Info (Show/Hide)
Cliciwch yma i wrando
Wel, ddaeth popeth at ei gilydd yn y diwedd, ac mae'r sioe gyntaf yn y can! Dyma'r nodiadau am Episode 1 o'r Podcast Graffiti Cymraeg
0:00 Rhagarweiniad
Podcastio neu podledu?
www.accidenthash.com
www.thescenezine.com
www.bandtrax.net
1:17 Granian - Mark My Words
www.granian.com
4:29 Rhwydwaith Gerddoriaeth Bodsaff
www.podsafemusicnetwork.com
http://music.podshow.com
Beth yw'r Rhwydwaith Gerddoriaeth Bodsaff?
7:00 Hurricane Katrina - www.cdbaby.com
www.redcross.org
8:23 The Matthew Show - The Lonliest Boy In Toyland
www.thematthewshow.com
13:56 Rhys Mwyn - 'sgwenna i fi! Tricky Nixon. Tanysgrifiwch http://feeds.feedburner.com/graffiticymraeg , www.coolerpodcasts.com
17:17 Merched Mecca - A470
21:48 Outro
Gobeithio bod chi'n joio fe (os oes unrhywun yn gwrando. . .)
Y Podcast Cymraeg cyntaf erioed!
2005/09/02
Info (Show/Hide)
Mor belled a bod fi'n gwybod ta beth. Gyrrwch ebost i rhysdowning@gmail.com os y chi'n anghytuno.
'Falle bod chi di sylwi (os y chi'n darllen. . .) bod dim podcast 'ma. Dyw'r ffaith 'ma ddim di dianc o'n ymwybodoliaeth (yfe gair iawn yw hwna?), ond ges i'r syniad I neud podcast cymraeg mewn tafarn neithiwr, felly bydd eisie peth amynedd i'r holl beth ddod i fodoliaeth.
Y cynllun gwreiddiol oedd podcastio'n gymraeg a chwarae bands cymraeg yn unig. Dyna beth wy'n anelu at yn y tymor hir, ond 'sdim lot o fandiau cymraeg yn bodsaff eto (os y chi mewn band cymraeg, a hoffech gael eich chwarae ar y podcast hyn, neu un arall, rhowch bip i'r Rhwydwaith Gerddoriaeth Bodsaff neu gyrrwch ebost i fi). Felly am y cwpl o bodcasts cynta, na'i chwarae bandiau saesneg, nes bod fi gallu sorto mas pethau hawfraint gyda'n hoff fands cymraeg.
Ta beth, f'enw i yw Rhys Downing - cerddor, a cyn bo hir myfyriwr a podcastiwr. Swi'mai, gobeithio bod chi'n joio'r podcast unwaith bod e'n dechrau.
Graffiti Cymraeg
http://graffiticymraeg.blogspot.com/
Cerddoriaeth podsaff a bandiau lleol, i gyd drwy gyfrwng y gymraeg, gyda fi, Rhys Downing. - tanysgrifiwch yma
Podsafe music and local bands, all through the medium of welsh, with me, Rhys Downing. - subscribe here
My Music
Home
|
Add Podcast
|
Search
|
Contact
Edit
|
List